Cerdded 100 Ceredigion

Dewch i adnabod Ceredigion gam wrth gam gyda detholiad o lwybrau cylchol ym mhob rhan o'r sir.  Bydd sialens Cerdded Cant Ceredigion yn eich helpu i gadw'n iach wrth i chi gyfri'r milltiroedd a chyrraedd y targed yn raddol tra'n mwynhau'r gorau o gefn gwad ac arfordir Ceredigion. 

Cychwynwch gyda llwybrau hawdd, cylchol, sydd hefyd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn a bygis, sydd yn gyfanswm o ddeg milltir. Ewch ymlaen am yr hanner cant, a chyn pen dim byddwch wedi cyrraedd y cant a chwblhau'r sialens!

 


Mae dros 2500km o llwybrau cyhoeddus yn croesi Ceredigion. Nod yr Her Gerdded hon yw amlygu argaeledd llwybrau ledled y sir gan gynnwys llwybrau llai adnabyddus a ffyrdd amgen o gyrraedd safleoedd poblogaidd, tra'n annog pobl i gael mynediad i gefn gwlad er budd iechyd a lles. Bydd y teithiau hunan-dywysedig hyn yn mynd â chi ar draws y sir gyfan i archwilio rhai o olygfeydd harddaf Ceredigion o ben clogwyni gwyllt y gwynt i ddyffrynnoedd coediog cysgodol.

Cymerwch yr her - teithiau cerdded byr i ddechrau

Dechreuwch gyda rhai o'r llwybrau cylchol byrraf a mwyaf hwylus,  sy’n addas i’r teulu cyfan. Rydym yn argymell thaith gerdded hamddenol ger y môr ym Mwnt (1.5 milltir) gyda blodau gwyllt o'ch cwmpas a siawns dda o weld dolffiniaid. Peidwich rhuthro bant wedyn, ond ewch i ymweld ag eglwys dlws Y Groes a mwynhewch ychydig o amser ar y traeth gyda hufen iâ blasus o Giosg Mwnt.

Mae taith Penbryn (1.6 milltir ) sy'n cychwyn o faes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cymryd llwybr heibio i eglwys fach gwyngalchog arall - Sant Mihangel, a adeiladwyd ar ochr bryn, ond sydd wedi'i chuddio rhag ysbeilwyr Llychlynnaidd oedd yn teithio ar hyd y glannau 'slawer dydd. 

Ychwanegwch at y milltiroedd rydych wedi eu cyflawni gyda wàc fach ychydig yn hirach ger Ffwrnais (3.4 milltir) aiff a chi i gynefin hollol wahanol.  Dechreuwch y daith o faes parcio Cadw a galw i weld Ffwrnais Dyfi sydd dan eu gofal. Dyma adeilad diwydiannol o'r 18fed ganrif oedd yn trin mwynau o'r cloddfeydd cyfagos. Yna dilynwch y lon dawel gyda'r cloddiau gyda'u mantell werdd o fwsogl,  a chroeso afon Einion. Mae'r cwm yn warchodfa natur sy'n esiampl arbennig o goedwig law Geltaidd, lle mae'r llystyfiant yn cynnwys mwsogl, cen a rhedynau.  Dilynwch y llwybr ymlaen dros ysgwydd ysgwydd Foel Fawr i fwynhau golyga odidog o aber Afon Dyfi.

Nol am yr arfordir wedyn i gwblhau'r 10 milltir cyntaf o'r Sialens, gyda tro yn Gwbert. (3.5 milltir).  Mae'r llwybr yn cynnig golygfeydd hyfryd dros aber afon Teifi tuag at draeth Poppit a gogledd Sir Benfro. Wedi cyflawni'r rhan gyntaf o'r  sialens, beth am ddathlu gyda dishgled o de a darn o deisen yn ngwesty'r Cliff, ac ymlacio i fwynhau'r olygfa. 

Ymlaen am yr hanner can milltir

Os ydych chi wedi mwynhau'r her 10 milltir cychwynnol yna beth am fynd ati a mynd ymlaen i gwblhau'r her 50 milltir. Mae’r 10 milltir a gwblhawyd yn yr her gyntaf yn cyfrannu at yr her 50 milltir.

Mae’r llwybrau wedi’u dewis o dudalen ‘Teithiau Cerdded a Theithio’ Hawliau Tramwy Cyngor Ceredigion, lle byddwch yn dod o hyd i fapiau sy’n dangos beth yw’r llwybr,  faint o giatiau a chamfeydd sydd ar hyd y llwybr, a beth yw’r tir dan draed - gall amrywio o laswellt meddal a thywod i darmac a gro mân ar lonydd gwledig. Mae'r teithiau cerdded hyn ychydig yn hirach  - rhwng 3 a 6 milltir o hyd, ac yn llwybrau gyda rhywfaint o dirwedd mwy heriol. Fodd bynnag, mae gan bob un o'r lleoliadau cerdded rywbeth gwahanol i'w gynnig - safleoedd treftadaeth diddorol, coetir braf a golygfeydd bendigedig bob amser.

Ychwanegwch naw taith gerdded arall s at y pedwar llwybr yr ydych wedi mynd i'r afael â nhw ar gyfer yr her 10 milltir i adeiladu hyd at 50 milltir. Mae'r casgliad hwn o lwybrau a awgrymir yn cwmpasu'r arfordir a chefn gwlad.

 

Mae taith gerdded Aberaeron Aberarth (4.5 milltir) yn cychwyn yn y dref harbwr hardd ac yn cymryd llwybr cylchol trwy Llanddewi Aberarth - galwch i mewn i'r eglwys i weld y garreg gerfiedig unigryw 'Viking hogback' - cyn mynd lawr i bentrf bach Aberarth, a fu unwaith yn brysur gyda diwydiant adeiladu llongau.  Mae'r llwybr yn ôl i Aberaeron ar hyd  glan yr arfordir, lle gallwch weld olion y gored lle byddai  mynachod Ystrad Ffllur yn dal pysgod ers talwm. 

Mae taith Aberaeron (4.2 milltir) yn mynd i'r de o'r dref ar hyd Llwybr yr Arfordir ac yn dychwelyd drwy Henfynwy. Ar y ffordd yn ôl am y dref cewch ei gwobrwy â golygfeydd  o'r arfordir i'r gogledd tuag at Eryri.

Mae'r daith gylchol yn Silian (3 milltir) ger Llanbedr Pont Steffan â golygfeydd dros gwm Dulas a thŵr y Dderi.

Mae llawer yn gwneud y daith i gopa Craig Glais yn Aberystwyth ar y trên, ond mae’n werth dilyn y llwybr ymlaen am Glarach a dychwelyd drwy’r coed (3.8 milltir) a  heibio i gwrs golff y dref, sydd â golygfeydd gwych - fyddech chi ddim yn disgwyl dim arall, na fyddech!

Mae Coed y Foel yn warchodfa natur yn nyffryn Gwenffrwd dan ofal Coed Cadw . Mae'r Wenffrwd yn un o lednentydd afon Teifi ger Llandysul. Mae Taith Coed y Foel (4 milltir) yn mynd â chi drwy’r coetir – yn llawn clychau’r gog yn y gwanwyn ac lliwiau amryliw'r hydref. 

Mae’r llwybr cylchol ardal Pontrhydfendigaid (4.3 milltir) yn mynd â chi o amgylch bryngaer hynafol Pen y Bannau sy’n edrych lawr am abaty Ystrad Fflur a draw dros Gors Caron.

Mae taith gerdded Llanerchaeron (5.5 milltir) yn dilyn yr hen reilffordd o Aberaeron i Lanerchaeron.

I gwblhau’r her 50 milltir, mae taith gerdded Llanon - Llanrhystud (6 milltir) yn cyfuno llwybr ar hyd yr arfordir â llwybr amgen mewndirol i ddychwelyd nôl i'r dref. 

Felly hefyd daith Penbryn - Llangrannog (4.5 milltir). Gallwch wrth gwrs ddilyn eich ôl troed nôl yr un ffordd a daethoch, ond byddai'r trwydd mewndirol yn llai heriol.

Os gwnaethoch fwynhau 50 milltir yna beth am barhau i gwblhau’r her 100 milltir?

Cofiwch fod y milltiroedd a gwblhawyd yn yr her 10 a 50 milltir yn cyfrannu at y sialens 100 milltir.

Rydych ar ben ffordd i gyflawni'r her 100 milltir 

i gyrraedd y Cant Ceredigion , mae'r llwybrau'n mynd yn hirach, gyda ambell i her tirweddol, ond peidwch a dynto nawr - mae'n wir werth dyfalbarhau. 

Mae cylchdaith Llynnoedd Teifi (8 milltir) yn rhoi’r dewis i chi gychwyn ym Mhontrhydfendigaid neu Abaty Ystrad Fflur. Mae’r llwybr yn dringo am ardal dawel y mynydd-dir ac yn ymlwybro rhwng Llynnoedd Teifi cyn dychwelyd am Bontrhydfendigaid.

Mae cylchdaith Bontgoch (7 milltir) yn cynnwys rhaeadr a llyn Craig Pistyll.

Mae tri llwybr  nesaf yn mynd â chi nôl i'r arfordir. Mae'r daith  Cei Newydd – Cwmtydu ar hyd Llwybr yr Arfordir (8 milltir)  yn boblogaidd iawn ac yn dychwelyd ar hyd llwybr mewndirol cysgodol.

Ar ôl taith hamddenol ar hyd traeth Tanybwlch, mae taith Tanybwlch (5.8 milltir) yn cynnwys dringfa i fyny’r Allt Wen cyn dychweliyd  yn hamddenol ar hyd llwybr Ystwyth.

Mae taith gerdded Aberteifi - Ferwig (7 milltir) yn mynd â chi i aber afon Teifi ac yn dychwelyd ar draws tir fferm cyfoethog.

Mae'r ddwy daith gerdded olaf yn her 100 milltir Ceredigion yn fewndirol. Mae Allt Goch Llanbedr Pont Steffan (5.8 milltir) yn mynd â chi o ymyl tref Llanbedr Pont Steffan i goetir Longwood.  Y gymuned sydd bellach yn rheoli'r goedwig hon, ac maent yn brysur yn datblygu rhwydwaith o lwybrau, a chynnig gweithgraeddau coed. 

Y daith gerdded olaf yn yr her 100 milltir yw'r hiraf, ond cewch ymdeimlad o gyflawniad pan fyddwch yn cyrraedd pwynt uchaf y daith hon yn ardal Trefeurig (9.5 milltir) sydd â golygfeydd gwych ar draws y bryniau tuag at yr arfordir.  Dyma daith sy'n crynhoi i'r dim beth mae cerdded yng Ngheredigion yn ei olygu.

Llongyfarchiadau am gyflawni her Cerdded Cant Ceredigion - nawr, ble ddewiswch chi ar gyfer y can milltir nesaf?