Mae llwybrau beicio Ceredigion yn debyg iawn i’n hafonydd, yn amrywio o lwybrau hamddenol igam-ogam i lethrau serth a dringfeydd heriol. Ond, ble bynnag ewch chi, ry’ch chi’n siŵr o gael gwledd i’r llygad. Mae ein lonydd yn dawel, ac mae gennym ddigonedd o lwybrau oddi ar y ffordd hefyd.
Llwybrau beicio Ceredigion
Mae rhai o’n llwybrau beicio, fel Llwybr Ystwyth a Llwybr Rheidol sy’n dechrau yn Aberystwyth, neu Lwybr y Cardi Bach sy’n dechrau yn Aberteifi, yn ymuno â Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans. Cyfle perffaith i fynd am reid hirach ar eich beic.
Beicio Mynydd yng Ngheredigion
Mae Ceredigion yn lle gwych i feicio mynydd, gyda dewis da o lwybrau beicio a llwybrau ceffylau. Beth am drefnu eich taith eich hun neu fynd am reid gyda thywysydd lleol? Cewch syniadau am lwybrau posib yn y panel ochr.
I gael golygfeydd godidog, a thipyn o her, mae canolfan beicio mynydd Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth gyda’r gorau.
Cewch ddewis o dri llwybr, pob un â’i gymeriad ei hun. Fel mae’r enw’n awgrymu, bydd llwybr Summit yn mynd â chi ar hyd llwybrau un trac i’r copaon lle cewch fwynhau golygfeydd gwych.
Mae'r golygfeydd o lwybr Pendam yr un mor drawiadol, ac mae'n cynnwys rhai rhannau technegol i’ch herio. Os hoffech fynd allan i’r bryniau agored, llwybr Syfydrin yw'r un i chi.
Wrth ymyl y ganolfan groeso, fe welwch drac ymarfer pwrpasol. Mae hwn yn lle gwych i feicwyr profiadol a dibrofiad ymarfer eu sgiliau neu gynhesu cyn mentro allan ar y llwybrau hirach sy’n dechrau gerllaw.
Mae beicwyr mynydd yn eu helfen ym Mynyddoedd Cambria, gyda rhwydwaiath eang o lwybrau ceffylau sy'n addas ar gyfer beicio mynydd hefyd.
Gwyl Feicio Aberystwyth
Bob blwyddyn, mae Gŵyl Seiclo Aberystwyth yn dathlu beicio o bob math. O gyffro’r gystadleuaeth beicio mynydd i lawr rhiw, a chwys a llafur yr her ddringo, i ras sbortif Gorllewin Gwyllt Cymru, rasys hwyl i blant, a rasys criteriwm, mae hon yn ŵyl a hanner.
Gyda rhai o feicwyr mwyaf blaenllaw Prydain yn rasio ar hyd strydoedd a llethrau Ceredigion, gall ymwelwyr â’r ŵyl wylio’r holl gyffro, cyn neidio ar eu beic a darganfod lonydd tawel a thlws Ceredigion eu hunain.
Mae sbortif poblogaidd Gorllewin Gwyllt Cymru yn rhoi dewis o bedwar llwybr, gan ddibynnu ar eich hwyliau a’ch stamina: y Cawr, y Mynach, y Diafol, a’r Corrach.
Bydd manylion y rasys yn cael eu cyhoeddi ar wefan British Cycling pan fydd y cyfnod cofrestru’n dechrau.